
Welsh education is changing. Over the next three years, the Welsh government are implementing a series of changes to Welsh qualifications. Here’s what you need to know.
Mae addysg yng Nghymru yn newid. Dros y tair blynedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu cyfres o newidiadau i gymwysterau Cymru. Dyma’r hyn sydd angen i chi ei wybod.
What are the reforms?
The National 14-16 reforms are designed to improve standards and ensure that Welsh learners become ‘qualified for the future’.
The reforms are designed to match the needs of today’s learners and improve attainment across Wales.
To ensure Welsh learners have a comprehensive, relevant and equitable education, the National Qualifications aim to:
- make best use of digital technology
- provide skills that Welsh employers are calling for
- increase opportunities for hands-on learning
- have value within and outside of Wales
At the core of the reforms are the following three principles:
- qualifications will be aligned with the Curriculum for Wales
- qualifications will be coherent and inclusive
- qualifications will be available in Cymraeg and English
Beth yw’r diwygiadau?
Mae’r diwygiadau cenedlaethol 14-16 wedi’u cynllunio i wella safonau a sicrhau bod dysgwyr Cymru yn dod yn ‘gymwys ar gyfer y dyfodol’.
Mae’r diwygiadau wedi’u cynllunio i gyd-fynd ag anghenion dysgwyr heddiw a gwella cyrhaeddiad ledled Cymru.
I sicrhau bod dysgwyr Cymru yn cael addysg gynhwysfawr, berthnasol a theg, mae’r Cymwysterau Cenedlaethol yn anelu at:
- yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol
- yn darparu sgiliau y mae cyflogwyr Cymru yn galw amdanyn nhw
- yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol
- yn cynnig cymysgedd ehangach o ddulliau asesu
- yn werthfawr yng Nghymru a thu hwnt
Yn greiddiol i’r diwygiadau mae’r tri egwyddor canlynol:
- bydd cymwysterau’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru
- bydd cymwysterau’n gydlynol ac yn gynhwysol
- bydd cymwysterau ar gael yn Gymraeg a Saesneg
What is the timeline for the reforms?
The reforms will be implemented in three stages over the next three academic years (from September 2025 to September 2027).
Wave 1 |
Select GCSEs |
Taught from September 2025 |
Wave 2 |
Select GCSEs |
Taught from September 2026 |
Wave 3 |
VCSEs |
Taught from September 2027 |
For a full breakdown and to see when specific qualifications will be introduced see here.
Beth yw’r amserlen ar gyfer y diwygiadau?
Bydd y diwygiadau’n cael eu gweithredu mewn tri cham dros y tair blynedd academaidd nesaf (o fis Medi 2025 i fis Medi 2027).
Cymwysterau ton 1 |
TGAU |
Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025 |
Cymwysterau ton 2
|
TGAU |
Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026 |
Cymwysterau ton 3
|
TAAU Cyfres Sgiliau Sylfaen |
Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 |
Am ddadansoddiad llawn a gweld pryd y caiff cymwysterau penodol eu cyflwyno, gweler yma.
What is the Welsh National Curriculum?
The Welsh National Curriculum is the guiding principle behind Welsh education. It’s designed to empower learners to become:
- Ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives
- Enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work
- Ethical, informed citizens of Wales and the world
- Healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society
Beth yw Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru?
Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yw’r egwyddor arweiniol y tu ôl i addysg yng Nghymru. Mae wedi’i gynllunio i rymuso dysgwyr i ddod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- Cyfranwyr mentrus a chreadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion moesegol a gwybodus, o Gymru a’r byd
- Unigolion iach a hyderus, yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Why did you decide to develop qualifications for the reforms?
With inclusive learning and learner progression at the heart the Curriculum for Wales, developing qualifications for the national 14-16 reforms matched our commitment to making education accessible for all.
We have a long history of removing barriers to education, empowering learners and supporting achievement. We’re bringing our expertise in foundation qualifications, SEND provision and skills for work and life to change Welsh learners’ lives.
Pam wnaethoch chi benderfynu datblygu cymwysterau ar gyfer y diwygiadau?
Gyda dysgu cynhwysol a chynnydd dysgwyr wrth galon y Cwricwlwm i Gymru, roedd datblygu cymwysterau ar gyfer y diwygiadau cenedlaethol 14-16 yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i wneud addysg yn hygyrch i bawb.
Mae gennym hanes hir o gael gwared ar rwystrau i addysg, grymuso dysgwyr a chefnogi llwyddiant. Rydym yn dod â’n harbenigedd mewn cymwysterau sylfaen, darpariaeth AAA ac sgiliau ar gyfer gwaith a bywyd i newid bywydau dysgwyr Cymru.
What qualifications are you developing?
- Entry 1 – Level 2 Skills for Life and Work suite
- Entry 1 – Level 2 Project Qualifications
- Entry 1 – Level 1 General Foundation in English
- Entry 1 – Level 1 General Foundation in Numeracy
Pa gymwysterau ydych chi’n eu datblygu?
- Mynediad 1 – Lefel 2 Sgiliau Bywyd a Gwaith
- Mynediad 1 – Lefel 2 Y Prosiect Personol
- Mynediad 1 – Lefel 1 Dyniaethau Sylfaen
- Mynediad 1 – Lefel 1 Manwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid Sylfaen
You ask, we answer:
If there’s anything else you want to know about the National 14-16 Reforms, submit your questions here.
Chi’n gofyn, ni’n ateb:
Os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei wybod am y Diwygiadau Cenedlaethol 14–16, cyflwynwch eich cwestiynau yma.